Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

 

CYP(4)-01-11 – Papur 2

 

Iechyd Plant:Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

Diben

 

1.    Mae'r papur hwn yn rhoi gwybodaeth gefndir i fwydo trafodaeth y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gyfarfod ar 29 Medi 2011.

 

2.    Yn ôl y cais a gafwyd, mae'r papur yn rhoi manylion am agweddau ar iechyd plant, gan gynnwys gwasanaethau a ddarperir gan y GIG, iechyd cyffredinol plant, rhai cyflyrau meddygol penodol i blant, a Dechrau'n Deg.

 

Cyflwyniad

 

3.    Cafodd llawer o'r blaenoriaethau ar gyfer agenda Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant y Cynulliad hwn eu nodi yn Sefyll Cornel Cymru.

 

4.    Mewn perthynas â'r GIG, mae pwyslais clir yn ymrwymiadau ein maniffesto ar roi dechrau iach mewn bywyd i blant. Yn fwy cyffredinol, mae arnom eisiau sicrhau bod plant yn cael y gofal sydd ei angen arnynt mor agos i'w cartrefi ag y bo modd, mewn cyfundrefn iechyd integredig, ddiogel a chynaliadwy.

 

5.    Rydym wedi datgan yn glir ein hymrwymiad i wella canlyniadau i blant. Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd glir ar Weinidogion Cymru i ddangos y sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae hynny’n golygu y dylai Gweinidogion Cymru flaenoriaethu hawliau Plant a Phobl Ifanc a gwella canlyniadau ar draws portffolios, gan gynnwys iechyd a lles.

 

6.    Rydym yn gwneud hynny trwy ein rhaglen o ymyriadau iechyd a chymdeithasol, gan ymateb i'r gronfa o dystiolaeth yn Adroddiadau Marmot, Allen a Field sy'n dangos yn glir bod atal, ac adnabod ac ymyrryd yn gynnar, yn ogystal â mynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd, yn fuddsoddiad hanfodol yn nyfodol pob plentyn.

 

7.    Mae hyn hefyd yn cynnwys ein hymrwymiad i ddyblu'r nifer o blant a'u teuluoedd sy'n elwa ar Dechrau'n Deg – gan gynnwys mwy o ymweliadau iechyd.

 

8.    Ceir manylion am ein blaenoriaethau ar gyfer iechyd plant yng Nghymru yn Atodiad 1.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


ATODIAD 1: IECHYD PLANT

 

Mae'r maniffesto'n nodi rhaglen y Llywodraeth dros y pum mlynedd nesaf ac yn cynnwys amryfal ymrwymiadau mewn perthynas â'r agenda iechyd, gan gynnwys iechyd plant - ymrwymiadau sy'n datblygu, yn ehangu ac yn ymgorffori gwaith sydd eisoes ar y gweill. Rydym yn gwireddu nifer o gynlluniau i wella iechyd plant.

 

 

(i) Ehangu Dechrau'n Deg

 

Mae rhaglen Dechrau'n Deg ymhlith yr addewidion a elwir yn 'Pump am Ddyfodol Tecach' yn ein Maniffesto. Sail y rhaglen yw'r dystiolaeth y bydd buddsoddi mewn ymyriadau a phrofiadau o safon i blant o deuluoedd difreintiedig yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn cael effaith uniongyrchol ar eu hiechyd. Mae arnom eisiau sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, ac fel rhan o hynny byddwn yn dyblu'r nifer o blant a fydd yn elwa ar ymweliadau iechyd gwell, lleoedd meithrin am ddim a chymorth gwell i deuluoedd trwy ein rhaglen ‘Dechrau’n Deg’; byddwn hefyd yn sicrhau bod y rhaglen yn cyrraedd ymhellach ac yn dyblu nifer y plant sy'n elwa oddi wrth Dechrau'n Deg i 36,000; bydd hynny’n golygu bod bron i chwarter plant 0-3 oed Cymru yn gallu elwa.

 

(ii) Gwella Amddiffyniad ac Iechyd Plant

Un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw gorfodi'r agenda iechyd cyhoeddus yn ei blaen ac annog rhieni i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu plant.

Ein Dyfodol Iach yw Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd y Cyhoedd hyd 2020. Mae rhoi dechrau da i blant a phobl ifanc sy'n gymorth i'w hiechyd a'u lles yn yr hirdymor yn un o themâu Ein Dyfodol Iach. Mae'r thema hon hefyd yn ganolog i Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb, Cynllun Gweithredu Strategol Lleihau Annhegwch ym Maes Iechyd Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu cyfres o gamau gweithredu ymarferol sy'n ymgorffori mynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd mewn gwaith iechyd cyhoeddus. Mae'n cysylltu hefyd â'n Strategaeth Tlodi Plant. Mae'r Strategaeth hon yn nodi'n glir beth y gall Llywodraeth Cymru ei sicrhau i helpu i leihau tlodi ymhlith plant – ac i wella canlyniadau teuluoedd ar incwm isel, canlyniadau a fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar iechyd plant.

 

Gan dynnu ar Ein Dyfodol Iach, Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb a'r Strategaeth Tlodi Plant, mae Fframwaith Ansawdd Blynyddol 2011/12 yn dynodi diogelu a gwella iechyd plant a phobl ifanc fel cam gweithredu allweddol. Erbyn diwedd 2011/12, rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) sicrhau canlyniadau yn erbyn targedau y mae'r sefydliad yn gyfrifol amdanynt o fewn i'w Gynllun Plant a Phobl Ifanc lleol, ac yn enwedig y targedau hynny sy'n ymwneud ag iechyd plant, annhegwch o ran iechyd a thlodi ymhlith plant. Yn fwy penodol, rhaid gallu dangos cynnydd lleol o ran cyrraedd y targedau tlodi ymhlith plant sy'n ymwneud â marwolaethau babanod, pwysau geni isel a beichiogi yn yr arddegau.

 

O ran materion penodol ym maes iechyd y cyhoedd, rydym yn canolbwyntio'n arbennig ar sgrinio, imiwneiddio, bwyta'n iach a gordewdra, ysmygu, iechyd a lles rhywiol ac ysgolion iach.

 

Sgrinio Iechyd y Ffetws, y Fam a’r Plentyn

 

Cynigir profion sgrinio cynenedigol ar gyfer: HIV, hepatitis B, siffilis, tueddiad at rwbela, clefyd y crymangelloedd a thalasaemia, syndrom Down, gwrthgyrff rhesws, a darparu sganiau uwchsain yn gynnar yn ystod beichiogrwydd a thua chanol y beichiogrwydd. Mae BILl ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i gryfhau'r rhaglen a rhoi profion newydd ar waith ar gyfer sgrinio smotyn o waed babanod newydd-anedig. Mae hyn yn cynnwys profi Dystroffi'r Cyhyrau Duchenne (DMD) ar gais y Cyfarwyddwr Meddygol. Cyflwynwyd y rhaglen Sgrinio Clyw Babanod yng Nghymru yn 2003. Caiff pob baban ei sgrinio o fewn 6 wythnos i'w eni. Mae'r rhaglenni sgrinio'n rhan o'r gyfres o raglenni cenedlaethol i sgrinio'r boblogaeth a gyflwynir gan Adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Imiwneiddio

 

Mae'r gyfradd genedlaethol o fanteisio ar bob imiwneiddiad arferol mewn plant blwydd oed yn uwch na'r targed o 95%. Mae'r gyfradd fanteisio ar gyfer y brechlyn MeningitisC (MenC), 5 mewn 1, a brechlynnau niwmococol cyfun (PCV), yn parhau i gynyddu, ac mae'r lefel ar gyfer dosys brechlynnau mewn plant pump oed bellach yn uwch nag y bu erioed. Mae'r rhan fwyaf o ffigurau diweddar yn dangos bod y nifer o blant dwy oed a gafodd ddos cyntaf y brechlyn MMR yn 91.6%; arhosodd y nifer a dderbyniodd yr ail ddos MMR erbyn pum mlwydd oed yn 87%; ac roedd nifer y plant pump oed a gafodd y dos MMR cyn oedran ysgol atgyfnerthol yn 90%. Ym mis Mai 2011 roedd nifer y merched a oedd wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn Feirws Papiloma Dynol (HPV) ym Mlwyddyn Ysgol 8 2010-11 yn 86%, a'r nifer a oedd wedi cael yr ail ddos yn 81%.

 

Bwyta'n Iach a Gordewdra

 

Gall codi'r cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru roi dechrau iachach i blant. Nod y Rhaglen Bwydo ar y Fron Genedlaethol yw mynd i'r afael â'r cyfraddau bwydo ar y fron gwahanol ymhlith y boblogaeth yng Nghymru a chodi ymwybyddiaeth gyhoeddus o bwysigrwydd bwydo ar y fron. Mae'r rhaglen yn targedu cefnogaeth ar dair lefel: y GIG; y gymuned; a theuluoedd. Mae'n cynnwys rhoi grant i Fenter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF i ddarparu swyddog proffesiynol i gefnogi gwasanaethau mamolaeth, ymweliadau iechyd a gwasanaethau cymunedol eraill ledled Cymru. Darperir grantiau hefyd i bob bwrdd iechyd lleol i gydlynu Grwpiau Cymorth, hyfforddiant Cyfeillion Cefnogol a Chynllun Croeso i Fwydo ar y Fron yn strategol yn lleol.

 

Mae Cychwyn Iach yn gynllun statudol ledled y Deyrnas Unedig, a reolir gan yr Adran Iechyd ar ran y Deyrnas Unedig. Mae'r cynllun yn darparu talebau wythnosol, sy'n werth £3.10 yr un ar hyn o bryd, tuag at gost llaeth, ffrwythau ffres, llysiau ffres a llaeth fformwla i fabanod mewn mannau gwerthu sy'n cymryd rhan. Mae dau fath o fitaminau atodol a brand Cychwyn Iach arnynt hefyd ar gael trwy'r GIG heb bresgripsiwn ar gyfer merched beichiog, mamau newydd a phlant ar y cynllun. Dros y 18 mis diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu cynllun prawf i ddarparu fitaminau Cychwyn Iach am ddim i bob menyw feichiog a phob plentyn 0-4 oed yng Nghaerdydd i fynd i'r afael â phryderon gweithwyr iechyd proffesiynol am y cynnydd yn y nifer o achosion o ddiffyg fitamin D.

 

Y brif ymgyrch o ran iechyd cyhoeddus ar hyn o bryd yw Newid am Oes. Ymgyrch yw hon a ariennir gan adrannau ar draws y Llywodraeth (£90k yr un oddi wrth yr Adrannau Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant; Treftadaeth; a Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth) i annog pobl, gan gynnwys plant, i fwyta’n iachach a gwneud mwy o weithgarwch corfforol. Cefnogir hyn gan becyn cynhwysfawr o raglenni gan gynnwys:

 

·         Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan sy'n nodi gwahanol haenau ar gyfer trin a rhwystro gordewdra, o ddulliau rhwystro seiliedig ar y gymuned ac ymyriadau cynnar, i wasanaethau meddygol a llawfeddygol arbenigol. Mae BILl, gan gydweithio ag ALl a rhanddeiliaid allweddol eraill, wedi mapio polisïau, gwasanaethau a gweithgareddau lleol ar gyfer plant ac oedolion yn erbyn pedair haen o ymyrraeth. Maent wedi nodi bylchau a byddant yn rhoi atebion lleol ar waith, â chefnogaeth arweiniad cenedlaethol.

·         MEND, rhagen seiliedig ar y gymuned a'r teulu i blant gordrwm a gordew rhwng 7-13 oed a'u teuluoedd. Mae'r rhaglen amlddisgyblaeth yn gosod yr un pwyslais ar fwyta'n iach, gweithgarwch corfforol a newid ymddygiad, gan nerthu'r plentyn, a meithrin hunanhyder a datblygiad personol.

 

Ysmygu

 

Rydym wrthi'n ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Drafft ar Reoli Tybaco a byddwn yn lansio'r Cynllun diwygiedig yn yr hydref. Mae'r Cynllun Gweithredu Drafft ar Reoli Tybaco yn cydnabod pwysigrwydd atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu, trwy raglenni fel Treial Rhoi'r Gorau i Ysmygu mewn Ysgolion, ynghyd â phwysigrwydd amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law. Rydym yn ystyried beth y gallwn ei wneud i amddiffyn plant rhag peryglon mwg ail-law mewn cerbydau. Ar 13 Gorffennaf, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch newydd yn y cyfryngau i fynd i'r afael dros y tair blynedd nesaf ag ysmygu ac â chysylltiad â mwg ail-law. Oni fydd nifer yr achosion o blant yn dod i gysylltiad â mwg ail-law yn dechrau lleihau o fewn y tair blynedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried dewisiadau deddfwriaethol i wahardd ysmygu mewn ceir pan fydd plant yn bresennol.

 

Iechyd a Lles Rhywiol

 

Mae Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhywiol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, 2010-2015 yn amlinellu'r camau gweithredu i wella iechyd a lles rhywiol y boblogaeth, lleihau annhegwch mewn perthynas ag iechyd rhywiol, a datblygu cymdeithas sy'n cefnogi trafodaeth agored ynglŷn â pherthynas, rhyw, a rhywioldeb. Mae'r Cynllun yn canolbwyntio'n arbennig ar atal beichiogrwydd yn yr arddegau, gyda buddsoddiad o £450k ar ymyrryd penodol newydd yn achos y rhai mwyaf agored i feichiogi yn eu harddegau. Bydd Cam 1 yn targedu merched o dan 17 oed sy'n eu cyflwyno eu hunain i wasanaethau a hwythau eisoes yn feichiog (bydd yn cynnig, yn arbennig, ddull atal cenhedlu cildroadwy hir-weithredol (LARC) cyn eu rhyddhau o wasanaethau terfynu neu unedau esgor).

 

Ysgolion iach

 

Rhwydwaith o gynlluniau lleol yw Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, sy'n gweithio gyda thros 99% o ysgolion a gynhelir yng Nghymru i ddatblygu agwedd ysgol gyfan at iechyd. Bydd yn canolbwyntio ar 7 testun iechyd - bwyd a ffitrwydd; iechyd a lles meddyliol ac emosiynol; defnyddio a chamddefnyddio sylweddau; datblygiad personol a pherthynas; yr amgylchedd, diogelwch a hylendid. O fis Medi 2011 rhoddwyd estyniad o'r cynllun i leoliadau cyn oedran ysgol ar waith.

 

Mae gwasanaethau nyrsio yn rhan hanfodol o ysgol iach. Rydym yn rhoi'r gwasanaeth nyrsio ysgolion diwygiedig a amlinellwyd yn ‘Fframwaith ar gyfer Gwasanaeth Nyrsio mewn Ysgolion i Gymru' ar waith. Mae hyn yn cynnwys datblygu fframwaith canlyniadau; datblygu rhwydwaith proffesiynol i gefnogi rhoi'r fframwaith ar waith; a hwyluso hyfforddiant priodol i wella sgiliau iechyd cyhoeddus. Yn ôl yr archwiliad diweddaraf, ym mis Mawrth 2011, o'r nifer o nyrsys ysgol mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, roedd 227 o nyrsys ysgol mewn swydd.

 

 

 

(iii) Gwella Gwasanaethau Iechyd i Blant a Phobl Ifanc

 

Mae gwasanaethau o ansawdd rhagorol yn hanfodol er mwyn sicrhau'r canlyniadau iechyd gorau oll i blant a phobl ifanc, a'r ffordd orau o sicrhau'r rhain yw dilyn dull cyfannol, amlasiantaeth.

 

Gosod Safonau

 

Cyhoeddwyd y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a'r Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru yn 2005 fel strategaeth hirdymor ar gyfer gwella ansawdd gwasanaethau. Mae'n gwneud plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn ganolog i ddarparu gwasanaethau trwy sicrhau y caiff gwasanaethau eu cynllunio i ddiwallu eu hanghenion penodol.

 

Bellach, mae arnom eisiau adeiladu ar seiliau'r Fframwaith a defnyddio dull sy'n fwy seiliedig ar ddeilliannau ar gyfer nodi'r canlyniadau y dymunwn eu sicrhau i blant a phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu hiechyd a'u lles. Rydym hefyd am ddynodi ffordd o fesur y canlyniadau hynny er mwyn cael darlun o'r hyn y dymunwn ei ddarganfod am ansawdd ac effeithiolrwydd gwasanaethau'r GIG a llywodraeth leol.

 

Gwasanaethau Mamolaeth

 

Ar ôl ymgynghori, byddaf yn lansio Gweledigaeth Strategol ar gyfer y Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru ar 19 Medi yn yr Uned Famolaeth dan arweiniad Bydwragedd yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd. Amlinellir rhaglen o weithredu cenedlaethol a lleol i wireddu ein gweledigaeth, sef y dylai beichiogrwydd a genedigaeth fod yn brofiad diogel a chadarnhaol sy'n galluogi'r fam, ei phartner a'i theulu i ddechrau magu eu plentyn gan deimlo'n hyderus a medrus, a chan deimlo eu bod yn cael cymorth i roi dechrau diogel iddo. Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan fydd yn arwain a goruchwylio'r broses hon. Cynhelir dadl am wasanaethau mamolaeth ddydd Dydd Mawrth 20 Medi.

 

Gofal Newyddenedigol

 

Yn dilyn ymateb Llywodraeth Cymru i'r Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol yng Nghymru gan y Pwyllgor blaenorol, mae BILl, trwy eu gwaith ar y cyd ar Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a'r Rhwydwaith Clinigol Newyddenedigol, wedi rhoi Cynllun Gweithredu Cymru Gyfan ar waith i weithredu'r holl welliannau i wasanaethau a ddynodwyd. Bu adolygiad o gydymffurfio â Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan, ac o gymharu â gallu, yn sail i’r Cynllun Gweithredu hwn. Mae BILl unigol wrthi'n datblygu Cynlluniau Gweithredu i arwain gweithgareddau lleol. Fel rhan o'r Gwasanaeth Cludo Babanod Newydd-anedig 12 awr newydd a ddechreuodd ym mis Ionawr, ym mis Gorffennaf dechreuodd ambiwlans neilltuol â'r cyfarpar i drosglwyddo babanod sâl a chynamserol ar ei waith yn ne Cymru.

 

Fframwaith Cymru Gyfan ar gyfer Gofal Parhaus Plant a Phobl Ifanc

 

Mae asesu a darparu'r gofal parhaus y mae ar blant anabl ei angen i fyw bywydau annibynnol a llawn yn gymhleth. Mae'n galw am gydweithio effeithiol rhwng y GIG, llywodraeth leol, y trydydd sector ac asiantaethau eraill. Mae Llywodraeth Cymru'n datblygu canllawiau i wneud y broses o asesu anghenion yn fwy effeithiol a phrydlon. Disgwylir cyhoeddi canllawiau drafft ar gyfer ymgynghori ffurfiol yn ystod yr hydref.

 

Cynllun a Chanllawiau Gofal ar Ymataliaeth Plant a Phobl Ifanc i Gymru Gyfan

 

Gwnaed gwaith drwy Gymru gyfan i ddatblygu agwedd fwy cyson at gyflenwi cynhyrchion ymataliaeth i blant a phobl ifanc. Mae'r gwaith hwnnw bron ar ben a disgwylir cyhoeddi canllawiau yn yr hydref.

 

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS)

 

Mae gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru yn dal yn flaenoriaeth uchel, gyda'r angen i ddatblygu gwasanaethau cyson sy'n hygyrch i bob person ifanc. O fewn y flwyddyn ddiwethaf, lansiwyd cynllun gweithredu cenedlaethol i wella gwasanaethau iechyd meddwl plant. Byddwn yn parhau i gryfhau amrediad CAMHS, gan gynnwys mynediad at wasanaethau arbenigol i'r glasoed hŷn ac i bobl ifanc.

 

Rydym wedi trefnu bod £6.5 miliwn ychwanegol ar gael dros dair blynedd i wella gwasanaethau CAMHS. Dangosodd adroddiad annibynnol, Fairer Care Funding, a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar Ariannu Gofal a Chymorth ar 4 Gorffennaf, fod gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a'r glasoed yng Nghymru wedi ehangu a newid er gwell. Bellach ceir triniaeth yn gyflymach a bu cynnydd yn nifer y staff arbenigol.

 

Ymhlith y targedau yn y Fframwaith Ansawdd Blynyddol ar gyfer y GIG yng Nghymru ar gyfer 2010/11 ceir targedau penodol i wella mynediad i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed ar draws yr ystod oedran, gan gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed. Mae BILl eisoes wedi datblygu cynlluniau i sicrhau y cyrhaeddir y targed hwn erbyn mis Mawrth 2012.

 


Cymorth mewn Profedigaeth

 

Fel rhan o'r cyllid gofal lliniarol canolog sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru yn 2011-12, mae £210,072 yn cael ei ddarparu i Cruse Cymru i ddatblygu a chynnal gwasanaethau cymorth cynhwysfawr i blant yng Nghymru sydd wedi dioddef profedigaeth am ba bynnag reswm ac y mae arnynt angen cymorth ychwanegol. Disgwylir i Cruse gydweithio â gwasanaethau eraill i blant mewn profedigaeth i sicrhau bod y cymorth priodol ar gael yn gyson a chyfartal ledled Cymru.

 

Diogelu Plant

 

Mae dyletswydd ar y GIG i gydweithio ag asiantaethau statudol eraill i hyrwyddo diogelu plant: (i) wrth recriwtio, cyflogi a datblygu staff; (ii) yn strwythurau a systemau sefydliadau; (iii) mewn gwasanaethau diagnostig a chynorthwyol uniongyrchol er mwyn atal, adnabod a rheoli cam-drin plant. Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ystyried ac yn ymateb i adroddiad Mansel Aylward. Mae’n ystyried swyddogaeth gwasanaethau diogelu plant BILl ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r cysylltiadau rhyngddynt, yng ngoleuni adroddiad y Fforwm Diogelu Cenedlaethol a newidiadau posibl i olion traed Byrddau Lleol Diogelu Plant.

 

(iv) Gofal am Blant a Phobl Ifanc y mae salwch, anabledd neu

gyflyrau hirdymor yn effeithio arnynt, neu sydd wedi dioddef cam-drin corfforol neu emosiynol

 

Tlodi ymhlith plant

 

Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd ein Strategaeth Tlodi Plant. Mae'r Strategaeth hon yn nodi'n glir beth y gall Llywodraeth Cymru ei sicrhau i helpu i leihau tlodi ymhlith plant – ac i wella canlyniadau teuluoedd ar incwm isel, canlyniadau a fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar iechyd plant. Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn ymateb allweddol i Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru. Rhaglen arloesi yw hon sy'n hyrwyddo datblygu systemau a chymorth amlasiantaeth effeithiol yn ôl ardaloedd ALl, gyda phwyslais clir ar atal ac ar ymyriadau cynnar i deuluoedd, yn arbennig y teuluoedd hynny sy'n byw mewn tlodi.

 

CAFCASS Cymru

 

Rydym yn symud ymlaen â'r adolygiad o'r gwasanaethau cyswllt â phlant sydd ar gael ledled Cymru. Cwblheir yr adolygiad erbyn Rhagfyr 2011. Mae CAFCASS Cymru hefyd yn cydweithio'n agos â chydweithwyr ym maes polisi i ystyried sut y gellir rhoi cymorth cyson a phriodol i wella gwasanaethau i deuluoedd sy'n cael anawsterau o ran cysylltu â'u plant ar ôl gwahanu.

 

Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd

 

Mae Llywodraeth Cymru, trwy Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, wedi cyflwyno rheoliadau i gryfhau'r gefnogaeth i blant a theuluoedd hyglwyf trwy gyflwyno'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd yng Nghymru. Nod y gwasanaeth hwn yw helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd trwy eu galluogi i gymryd camau cadarnhaol i wella eu bywydau. Mae'n canolbwyntio i ddechrau ar deuluoedd lle mae rhiant yn camddefnyddio sylweddau a lle mae pryder hefyd ynghylch lles y plentyn. Y nod yw ymestyn y gwasanaeth hwn i deuluoedd eraill sydd ag anghenion cymhleth o ganlyniad i broblemau iechyd meddwl neu salwch meddwl rhieni, anableddau dysgu a thrais yn y cartref.

 

Mae cyflwyno'r Gwasanaeth Integredig hwn fesul cam ar draws Cymru yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, a bydd yn adeiladu ar sail yr ymrwymiad clir yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu i sicrhau mwy o gydweithredu ac integreiddio gwasanaethau.

 

Anhwylder y Sbectrwm Awtistig

Ychydig dros dair blynedd sydd ers i Lywodraeth Cynulliad Cymru lansio Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD) - y cynllun cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig, os nad yn y byd. Ers hynny, rydym wedi cyflawni llawer iawn.

Trefnwyd bod £2 filiwn ar gael i ddatblygu camau gweithredu o fewn Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig, ac i'w rhoi ar waith. Mae’r camau hyn yn cynnwys datblygu gwasanaethau diagnostig ar gyfer plant ac oedolion a gwasanaethau cwnsela i oedolion; cynnal a chadw'r seilwaith lleol presennol gan gynnwys arweinwyr ASD lleol; sefydlu Rhwydwaith Dysgu a Gwella ASD; datblygu e-adnodd ar gyfer staff rheng flaen; datblygu prosiectau rhanbarthol i blant ag ASD a'u teuluoedd; datblygu prosiectau rhanbarthol i oedolion â Syndrom Asperger; a phenodi Cennad Cyflogaeth Awtistiaeth Cymru, yn rhan-amser, a darparu hyfforddiant codi ymwybyddiaeth i'r Gwasanaethau Cyflogaeth. Er 2007, trosglwyddwyd £1.7m y flwyddyn i ALl trwy gyfrwng y Grant Cynnal Refeniw i blant ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig.

 

Buddsoddi mewn Gwasanaethau Cadeiriau Olwyn

 

Yn dilyn yr Adolygiad o'r Gwasanaethau Cadeiriau Olwyn, mae £2.2m ychwanegol y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi i leihau'r amser aros am wasanaethau cadeiriau olwyn, yn arbennig i blant a phobl ifanc. Mae'r cyllid bellach wedi'i neilltuo ac mae'n cael ei ddefnyddio'n bennaf i ddyblu'r nifer o staff clinigol ar draws Cymru. Bydd hyn yn sicrhau y caiff anghenion unigolion eu hasesu'n gyflymach fel eu bod yn cael y gadair olwyn fwyaf priodol i'w hanghenion. Mae'r cyllid hefyd yn cefnogi mwy o hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol, cleifion a'u gofalwyr. Rydym hefyd yn cydweithio â'r Groes Goch Brydeinig i sicrhau gwell gwasanaeth i'r rhai y mae arnynt angen benthyg cadair olwyn am gyfnodau byr.

 

Mae gwaith gwella gwasanaethau dan arweiniad yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd eisoes wedi arwain at newidiadau, yn arbennig o ran rheoli amser aros a gwella prosesau atgyfeirio, gan leihau'r amser aros. Mae eglurder ynghylch meini prawf atgyfeirio, ynghyd â gwell cyfathrebu, yn sicrhau y caiff clientiaid a gofalwyr well gwybodaeth ynglŷn â phryd y bydd eu cadair olwyn yn cyrraedd.

 

Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol

 

Mae Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yn cynnig gwasanaeth integredig i ddioddefwyr troseddau rhywiol lle y gallant gael gofal meddygol, cwnsela seicolegol, cyngor cyfreithiol a chymorth o fath arall, y cyfan yn yr un lle a chan staff a hyfforddwyd yn broffesiynol. Mae chwe chanolfan o'r fath yng Nghymru, yng Nghaerfyrddin, Bae Colwyn, Rhisga, Caerdydd, Abertawe a Merthyr Tudful. I gefnogi gwaith y canolfannau hyn ag oedolion a phlant ac i sicrhau y darperir gwasanaethau lleol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £192,000 dros ddwy flynedd (2010/11 a 2011/12).

 

(iv) Cynlluniau eraill

 

Cydsyniad Rhieni ar gyfer Tyllu Cosmetig

 

Daeth tyllu cosmetig yn fwyfwy poblogaidd mewn blynyddoedd diweddar, ond mae cymhlethdodau'n gyffredin. Rydym wedi ymrwymo i ymgynghori ynghylch cyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i rieni ymwneud â gweithdrefnau tyllu cosmetig ar unigolyn iau nag oedran penodol, a chydsynio â hwy. Bydd canlyniad yr ymgynghori yn cyfrannu at benderfynu a fydd Bil Tyllu Cosmetig yn cael ei gyflwyno yn ystod sesiwn 2013/14.